Mae pysgofa eogiaid wedi bod ar lannau'r Afon Menai am bron i saith cant o flynyddoedd. Amcan y llyfr hwn yw cofnodi a chadw ar gof yr hanes arbennig yma, nid yn unig i bobl Caernarfon ond hefyd er budd y genedl gyfan. Roedd y bysgodfa, ar un cyfnod, yn rhan hanfodol o ddatblygiad diwylliannol ac economaidd Caernarfon ac mae'n hanes sy'n werth ei gofnodi a'i drafod. Gobeithio y byddwch yn mwynhau hiwmor unigryw y Cofi wrth ddysgu sut yr ymdrechodd trigolion y dref i wneud bywoliaeth er gwaethaf grymoedd natur. Gobeithio hefyd y byddwch yn darllen y llyfr ac yn gwerthfawrogi mor werthfawr yw'r cyfraniad a wnaed gan bysgotwyr y cychod salmon tuag at wneud Caernarfon, tre'r Cofi, yn dref mor lliwgar a chyfoethog. Mwynhewch!
Pris y llyfr yw £9.99, gyda £1.90 ar gyfer Postio
Ebost / Email: post@hanescychodsalmoncaernarfon.co.uk